Lansiwyd Datganiad dros Ddemocratiaeth Gymreig Cymru Yfory ar 10fed o Fehefin 2009 gyda chant o lofnodywr gwreiddiol gan gynnwys pobl amlwg ym myd chwaraeon, awduron, actorion, beirdd, eglwyswyr a gwleidyddion.
Mae'r llofnwodwyr gwreiddiol yn cynnwys Cadeirydd Cymru Yfory, Barry Morgan, Archesgob Cymru, a Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru; Rheolwr Tîm y Llewod, Gerald Davies a’r nofiwr David Davies; dau o Feirdd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis; a’r actor Mathew Rhys. Mae'r cerddor Gruff Rhys a'r DJ Huw Stephens hefyd wedi cefnogi'r Datganiad.
Nod y Datganiad dros Ddemocratiaeth Gymreig yw denu sylw at yr hyn sydd yn y fantol yn y drafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac i ennill cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer rhoi pwerau deddfu cynradd i’r Cynulliad ac am refferendwm er mwyn dod a hynny i rym.
Mae'n gwneud hyn drwy dynnu sylw at yr egwyddorion yr ydym yn credu y dylai trefn lywodraethol Cymru gydymffurfio a hwy, a sut all cynnal refferendwm ar bwerau deddfu cynradd i’r Cynulliad ein symud yn nes at drefn o’r fath. Buasem yn annog pawb sydd yn credu fod ar Gymru angen system o lywodraethu fydd yn caniatáu i’r Cynulliad fynd i’r afael go iawn a newid bywydau pobl Cymru er gwell, ac sydd yn sefydlog, atebol a democrataidd, i gefnogi’r Datganiad hwn.
Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r Datganiad drwy cwblhau'r ffurflen isod, neu drwy lawrlwytho ac argraffu copi o'r Datganiad yma a'i ddychwelyd at y cyfeiriad a nodir.
------------------------------------------------------------------------------------------------------ DATGANIAD DROS DDEMOCRATIAETH GYMREIG
Yr ydym ni yr isod yn credu bod creu system o lywodraeth ddemocrataidd effeithiol i Gymru yn fater o’r pwys mwyaf.
Fe ddylai system felly fod:
- Yn effeithlon yn ei defnydd o amser ac adnoddau;
- Yn ddealladwy ac yn dryweladwy;
- Yn hyrwyddo cyfranogiad eang gan y cyhoedd a chymdeithas sifil;
- Yn parchu ymreolaeth y Cynulliad Cenedlaethol fel y corff etholedig sy’n cynrychioli pobl Cymru;
- Yn cynnig sefydlogrwydd cyfansoddiadol a thrwy hynny fodd i ganolbwyntio ar weithredu rhaglen bolisi a all fynd i’r afael â phroblemau a chyflawni potensial Cymru.
Fe gredwn ni y byddai hyn yn cael ei gyflawni orau drwy roi pwerau deddfu cynradd i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac rydyn ni’n galw am gynnal refferendwm i’r pwrpas hynny.
|