Mae Cymru Yfory yn croesawu'r ffaith fod Cymru wedi pleidleisio yn gadarnhaol dros bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad ar y 3ydd o Fawrth 2011. Roedd Cymru Yfory yn ymgyrchydd swyddogol o blaid yr ymgyrch Ie, gan gefnogi ei gwaith trwy ddatblygu grwpiau ymgyrchu lleol, cynhyrchu dogfennau briffio er mwyn codi ymwybyddiaeth, a rhannu ein hadnoddau.
Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd sy'n dod ag ystod eang o unigolion ynghŷd, sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru. Cymerwch gip ar ein gwefan, lle gallwch ddarllen ein blog a chael gafael ar wybodaeth a deunydd ynglŷn â’r broses ddatganoli yng Nghymru.
Os ydych am wybod rhagor am sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio, a deall beth fyddai oblygiadau pleidlais Ie yn y refferendwm, gallwch lawrlwytho ein canllaw newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol yma.
Gallwch lawrlwytho ein pecyn cefnogwyr, neu ein taflen diweddaraf yma.
Roedd nifer o'r rheini oedd yn credu y dylai'r Cynulliad gael yr offer i wneud ei waith yn iawn, wedi ymaelodi â Chymru Yfory, ac arwyddo ein Datganiad dros Ddemocratiaeth Gymreig.
Roedd y llofnodwyr yn cynnwys Cadeirydd Cymru Yfory, Barry Morgan, Archesgob Cymru, a Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru; y Llewod Gerald Davies a Jamie Roberts a’r nofiwr David Davies; dau o Feirdd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Gwyneth Lewis; a’r actor Mathew Rhys. Mae'r cerddor Gruff Rhys a'r DJ Huw Stephens hefyd wedi cefnogi'r Datganiad.
Cymru Yfory yn croesawu canlyniad y refferendwm
08.03.11
Mae Cymru Yfory yn hynod falch fod Cymru wedi pleidleisio ‘Ie’ argyhoeddiadol yn y refferendwm ar fwy o bwerau deddfu ...
... Mwy
Bydd Pleidlais Ie yn Gwella Craffu, medd Cynog Dafis
11.02.11
Tiwn gron True Wales y dyddiau hyn yw bod angen help ASau i sicrhau bod deddfau Cymru’n cael digon o ...
... Mwy