*
*
 
 
*
*
Y Cynulliad Cenedlaethol ar ei Newydd Wedd: Dysgu o Brofiad

Cynadleddau Undydd

Dydd Llun 13 Gorffennaf, Venue Cymru, Llandudno 
Dydd Iau 16 Gorffennaf, Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd
  

Yng Ngorffennaf 2007, cyhoeddodd Cymru Yfory y llawlyfr ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei newydd wedd - canllaw’r’. Mae’r llawlyfr yn parhau i fod yn adnodd gwybodaeth unigryw, yn darparu ‘canllaw lleygwr’ i sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio, gan alluogi pobl gyffredin i ddeall sut mae eu Cynulliad yn gweithio a sut allant ymwneud ag o a dylanwadu ar ei benderfyniadau.

Ddwy flynedd wedi i’r setliad datganoli presennol ddod i rym, mae Cymru Yfory yn bwriadu diweddaru’r llawlyfr, ac rydym wedi bod yn ffodus i sicrhau cefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr i wneud hynny.  

Bydd y ddwy gynhadledd “Dysgu o Brofiad Wedi Dwy Flynedd” yn gweld cyfranwyr sydd wedi cael profiad uniongyrchol o sut mae’r Cynulliad wedi gweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn rhannu eu profiadau ac arsylwadau, gan ddarparu cyfle dysgu gwerthfawr i’r rhai sydd am ddysgu mwy ynghylch sut mae’r Cynulliad yn gweithio a sut mae pwerau a gweithdrefnau'r Cynulliad wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Bydd cyfraniadau i’r cynadleddau yn bwydo i mewn i fersiwn newydd o’r Canllaw Cynulliad.  

Pwy ddylai fynychu?
Unrhyw un sydd am ddysgu mwy am bwerau a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sut maent wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn arbennig pobl o’r gymdeithas ddinesig sydd â diddordeb mewn ymwneud a’r Cynulliad Cenedlaethol neu sydd wedi gwneud hynny ac sydd am elwa o brofiadau eraill a rhannu eu profiadau eu hunain.  

RHAGLEN Y CYNADLEDDAU  

Bydd y cynadleddau yn cynnwys cyfraniadau gan:  
  • Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Cynulliad Cenedlatehol Cymru; 
  • Michelle Matheron a Jennifer Bradbury, Prosiect Lleisiau dros Newid y WCVA; 
  • Marie Navarro, Ysgol y Gyfraith Caerdydd a Deddfwriaeth Cymru Ar-lein;
  • Geraint Talfan Davies, Aelod o Bwyllgor Gwaith Cymru Yfory a Chadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig;   
  • Cyfrannwr o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd gweithdai yn y prynhawn yn darparu cyfle pellach am drafodaeth a chyfnewid profiadau.
 
ARCHEBU EICH LLE

Nid oes tal cofrestru ar gyfer y cynadleddau a caiff llefydd eu archebu ar sail 'cyntaf i'r felin'. Gallwch sicrhau eich lle drwy gwblhau'r ffurflen gofrestru a'i dychwelyd at y cyfeiriad a nodir.




*
*
*
Site by Innivo
*