Cymru Yfory yn yr Eisteddfod

26 Gorffennaf 2010

Mae gan Cymru Yfory stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu. Os allwch chi sbario bore neu prynhawn i helpu ar y stondin fe allwn ni gynnig tocyn mynediad i’r maes am ddim i chi. Os ydych ar gael y Sadwrn a’r Sul cyntaf, gorau oll.

Cysylltwch a cymruyfory@stratamatrix.co.uk os ydych chi ar gael.

Diolch!

Sawl un yn beirniadu cwestiwn y refferendwm

23 Gorffennaf 2010

Gyda ymgynghoriad y Comisiwn Etholiadol ar gwestiwn y refferendwm yn dod i ben heddiw, mae cynnig yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cael ei feirniadau gan nifer o sylwebwyr yn y wasg ac ar y we.

Yn y Western Mail ddoe, dydweddodd cyn-gadeirydd y Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones-Parry, fod y cwestiwn yn ‘gamarweiniol’ oherwydd nad yw’n adlewyrchu’r dewis ger bron.

Mae’r Sefydliad Materion Gymreig wedi blogio ar y cwestiwn, ac yn dweud ei fod yn unochrog gan ei fod yn awgrymu y byddai’r sefyllfa bresennol yn un cymhedrol a rhesymol.

Ar ei flog Devolution Matters, mae Alan Trench yn dadlau fod y cwestiwn yn amwys ac yn anfanwl.

Beth ydych chi’n meddwl o’r cwestiwn? Mynegwch ei barn drwy adael eich sylwadau isod.

‘Proses deddfwriaethol cyfredol yn wastraffus’ meddai Elin Jones AC yn y Sioe

22 Gorffennaf 2010

Mewn digwyddiad gan Cymru Yfory yn y Sioe Amaethyddol dydd Mawrth, dywed Elin Jones AC fod angen trosglwyddo mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol drwy sicrhau refferendwm llwyddiannus.  Tynnodd y Gweinidog sylw at y GCD a’r Mesur y Diwydiant Cig Coch a gymerodd tair blynedd i basio trwy ddau Lywodraeth a dau Bwyllgor yng Nghaerdydd a Llundain.   

Dywed Elin Jones AC:

“Does ddim amheuaeth fod datganoli a’r llywodraeth yng Nghymru wedi ateb gofynion materion gwledig ac amaethyddol yn dda.  Er hynny, mae angen symleiddio’r broses ddemocratig er mwyn gweld Senedd sy’n gwasanaethu buddiannau Cymru wledig yn well.

“Mae deddfwriaeth wledig ac amaethyddol yn cael ei ddatblygu a’i graffu yn well yng Nghymru, oherwydd mae wedi eu teilwra i anghenion priodol Cymru.  Mae’r broses ddeddfwriaethol gyfredol yn gwastraffu adnoddau a chraffu democratig.

“Esiampl berffaith yw’r GCD a’r Mesur y Diwydiant Cig Coch.  Dyma ddarn o ddeddfwriaeth gwbl anadleuol.  Er hynny, mae wedi cymryd tair blynedd i greu - yn y cyfamser, mae’r ddeddfwriaeth wedi ei ddatblygu gan ddau Lywodraeth - yng Nghymru a Llundain - a’i archwilio gan ddau bwyllgor a chorff deddfu yng Nghymru a Llundain.

“Mae’n amser i drosglwyddo pwerau deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod Cymru wledig yn cyflawni eu dyheadau o fewn craffu democratig Cymreig. 

“Byddai symud i ran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi aelodau etholedig i ddefnyddio pwerau deddfu i greu cyfreithiau yn ôl gofynion a diddordebau Cymru.” 

Dywed Gareth Vaughan, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:  

“Mae ffermio yn rhan annatod o dirlun a diwylliant Cymru, gall penderfyniadau sy’n briodol i fannau eraill o’r DU ddifrodi nid yn unig amaeth Cymru, ond hefyd ein tirlun, cymunedau a diwylliant.  Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi datganoli sy’n rhoi pwerau i Gymru greu polisïau sy’n canolbwyntio ar achosion Cymreig; mae’n golygu gallwn lobïo pobl sy’n etholedig yng Nghymru i wneud penderfyniadau sy’n briodol i Gymru, yn hytrach na phenderfyniadau pwysig yn cael eu creu yn Llundain gan bobl sy’n deall dim ynglŷn â’r diwydiant a hyd yn oed heb fod yng Nghymru erioed.   

“Efallai nad ydym yn cytuno bob amser gyda’r penderfyniadau a wnaed gan wneuthwyr polisi Cymru, ond yn ddiamau, heb ddatganoli byddai ein cwynion yn llawer mwy niferus a llym” 

Yn eu tystiolaeth i’r Confensiwn Gymru Gyfan, dywed NFU Cymru:  

“Ym mhrofiad NFU Cymru mae datganoli wedi sicrhau fod Gwleidyddion a’r Llywodraeth yn agosach at y bobl yng Nghymru, gan wneud hi’n haws cysylltu â hwy nag yn y gorffennol.   

“Un o ganlyniadau positif datganoli oedd sicrhau dynesiad hanesyddol i’r taliad fferm sengl, canlyniad amhosib heb ddatganoli yng Nghymru.  Mae’r system symlach yng Nghymru wedi galluogi ffermwyr i gael taliadau cyflymach. 

“Yn ein barn ni, mae datganoli wedi llwyddo i godi hunan-barch Cymru fel cenedl ac mae’n ymddengys fod ymwybyddiaeth yn tyfu o’r tu allan i Gymru fod modd gwneud pethau yn wahanol yng Nghymru.”

Cymru Yfory yn y Sioe Frenhinol

12 Gorffennaf 2010

Fe fydd Cymru Yfory yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i drafod Dyfodol Datganoli a Chefn Gwlad. Mae’r cyfarfod ar ddydd Mawrth Gorffennaf 20fed am 3pm ym Mhafiliwn S4C.

Y siaradwyr fydd Elin Jones AC ac Aled Rees, enillydd cystadleuaeth Fferm Ffactor ar S4C. Darperir lluniaeth ysgafn.

Croeso i chi basio’r neges ymlaen i unrhyw un fyddai a diddordeb. I lawrlwytho gwahoddiad, cliciwch yma.

 

Yr un hen True Wales

16 Mehefin 2010

Yn dilyn cyhoeddiad Cheryl Gillan ddoe y bydd y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad yn digwydd yng nghwarter cynta’r flwyddyn nesaf, fe ymddangosodd David Llywelyn Davies o Cymru Yfory a Rachel Banner o True Wales ar Good Morning Wales heddiw (tua 2h 34m i mewn) i drafod materion yngylch y dyddiad ac ati.

 

Dadleuon diflas o gyfarwydd o blaid pleidlais Na a gafwyd gan Rachel Banner, yn bell iawn oddi wrth yr hyn fydd ger bron yn y refferendwm. Clywon ni sut mae’r ‘elites gwleidyddol ym Mae Caerdydd’ yn bachu grym iddyn nhw’u hunain, mai rhan o’r broses o wahanu Cymru oddi wrth y DG yw’r refferendwm hwn, y bydd pleidlais Ie yn costio rhagor ac y dylai’r Cynulliad ganolbwyntio yn hytrach ar ‘Iechyd, Addysg a’r Economi’. Dewch i ni gymryd y pwyntiau yma yn eu tro:

 

Yr elites gwleidyddol

 

Os mai’r elites gwleidyddol sy’n byw ym Mae Caerdydd, pam, yn ôl pôlio diweddar gan YouGov a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, y mae 2 i bob 1 ymatebydd yn credu y dylai’r Cynulliad gael mwy o ddylanwad ar lywodraethu Cymru na San Steffan, heb son am y ffaith nad oes gan Gabinet cyfredol y DG ddim un Aelod sy’n cynrychioli etholaeth Gymreig?

 

‘Y llethr llithrig i wahaniad’

 

Nid annibyniaeth yw pwnc y refferendwm yma. Fyddai pleidlais Ie ddim yn golygu bod Cymru’n ‘ei thorri’i hun i ffwrdd oddi wrth weddill y DG’; yr hyn a gaen ni fyddai llywodraethu symlach o fewn fframwaith y DG, a’r gallu i weithredu’n brydlon er lles ein pobl a’n cymunedau.

 

Rhagor o gost

 

Fel y dywedon ni o’r blaen, mae tystiolaeth a gyhoeddodd Confensiwn Cymru Gyfan yn dangos y byddai adnoddau sy’n cael eu clymu fyny ym mhroses aneffeithol a gwastraffus yr LCOs yn cael eu defnyddio’n well ar wneud deddfau yn fwy buan a phrydlon, ac mewn ffordd fwy cydlynus.

 

Iechyd, Addysg a’r Economi

 

Mae Iechyd ac Addysg yn feysydd sy eisoes wedi’u datganoli i’r Cynulliad. Ac eto, o dan y system ddiffygiol bresennol, dydyn ni ddim wedi gallu deddfu’n llawn ar faterion megis gwella hawliau cleifion iechyd meddwl a chael cludiant saffach i ysgolion heb wastraffu blynyddau yn gofyn caniatâd i Whitehall yn gyntaf. Ys dywedodd David y bore yma pam yn y byd na fydden ni eisiau’r pwerau yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod y cyfrifoldeb eisoes gyda’r Cynulliad? Y ffaith yw mai dim ond pan fydd yr annibendod yma allan o’r ffordd y gall y Cynulliad ganolbwyntio ar wneud popeth posibl i wella Iechyd ac Addysg.

 

I gloi, fe ddaeth i’r amlwg unwaith eto nad oes gan True Wales ddim ateb i’r sialens, ‘pa fanteision fydd yn cael eu cadw os digwydd pleidlais Na. Roedd enghraifft y gwaharddiad ar smocio yn brawf clir o hyn – i deuluoedd y cannoedd o bobl a gollodd eu bywydau yn y ddwy flynedd a dreuliodd y Cynulliad yn cael pwerau ar wahardd, smocio nid dadl gyfansoddiadol wag, nac elites gwleidyddol dychmygol chwaith, yw pwnc y refferendwm hwn.

 

 

 

Rhaid i’r ymgyrch Ie edrych tua’r dyfodol

8 Mehefin 2010

Mewn blog arbennig, mae’r Sylwebydd Gwleidyddol, Lee Waters, ein gwestai-flogwr yn edrych ar y sialensiau sydd yn wynebu’r Ymgyrch Ie yn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad.

Er eu bod yn ceisio cyflwyno’u hunain yn ddiniwed yn wleidyddol, mae’r ymgyrchwyr Na yn weithredwyr gwleidyddol soffistigedig. Ac er fod polau piniwn yn parhau i ddangos eu bod wedi colli gafael ar farn gyhoeddus Cymru, unwaith y bydd dyddiad y refferendwm yn cael ei bennu, byddent yn derbyn llwyfan hafal gan y darlledwyr.

Felly sut y dylai’r blaengarwyr ddelio â’u pesimistiaeth ôl-edrychol?

1          Y dyfodol sy’n bwysig

Er mor ddiffygiol yw’r system ddeddfu, ni fydd y refferendwm am fecaneg. Mae llwythi o dystiolaeth nad yw’r system eLCO yn gweithio, ond nid yw hynny o ddiddordeb i’r rhan fwyaf o bleidleiswyr. Nid oes llawer o fudd o gael ein tynnu i ddadleuon dwl ynglŷn â Deddf Llywodraeth Cymru. Dylai’r ymgyrch Ie ganolbwyntio ar y dyfodol.

Bydd yr ymgyrchwyr Na yn tynnu’r llwch oddi ar lyfr tactegau Leo Abse ac yn codi ysbrydion y gorffennol – yr elitwyr, yr eithafion iaith, y rhai sy’n obsesu ar gyfansoddiadau, nad ydynt yn poeni rhyw lawer am y materion sylfaenol ar eu siwrne i sicrhau Cymru annibynnol. Ond ni dylai ymgyrchwyr Ie gael eu drysu gan y tactegau hyn o’r 1970au. Dylem fframio’r ddadl i fod am y dyfodol yn hytrach na’r gorffennol.

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae’r Cynulliad yn araf wedi tyfu o ran maint a hyder. Byddai pleidlais Ie yn symud Cymru ymlaen, yn rhoi llais cryfach i Gymru. Byddai’n sicrhau fod gan yr etholedig rai y cyfarpar i amddiffyn ein cymunedau rhag dihidrwydd Whitehall.

2          Gobaith nid anobaith

Rydym yn wynebu amseroedd anodd dros y blynyddoedd nesaf a dylai’r ymgyrch Ie osod gweledigaeth optimistaidd ar gyfer y dyfodol a chyferbynnu hynny gyda neges ôl-edrychol yr ymgyrch Na.

Mae’r dewis rhwng Cymru mwy hyderus ble nad oes rhaid i bobl ifanc adael eu cymunedau i chwilio am swyddi a sialensiau, neu diwylliant ddibynnol ble’r edrychwn at eraill am atebion i’n problemau.

Beth yw’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol sydd yn cael ei gynnig gan yr ymgyrchwyr Na?

3          Canlyniadau bwrw pleidlais Na

Mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr am weld datganoli yn llwyddo, ond mae’r ymgyrchwyr Na am gloffi’n Cynulliad.

Maent yn cyflwyno pleidlais Na yn y refferendwm fel opsiwn diogel. Rhaid curo’r elitwyr, medd Rachel Banner, a addysgwyd yn Rhydychen, a gadael i’r Aelodau Cynulliad barhau fel y maent. Ond nid yw parhau fel ydym yn opsiwn. Os yw Cymru yn bwrw pleidlais na dros ddiwygiad cymedrol, bydd gallu’r Cynulliad i sefyll dros Gymru yn dechrau datod.

Rydym eisoes yn gwybod mai esgus bychan sydd ei angen ar swyddogion Llundain i symud materion Cymreig i’r cyrion. Os fydd pleidlais na, bydd y system araf a chymhleth o ddeddfu yn gwaethygu. Mae’r tyllau yn y setliad datganoli yn cael ei ecsbloetio yn aml wrth i fiwrocratiaid Whitehall deimlo bod ganddynt ganiatâd i rwystro ceisiadau y Cynulliad.

Felly, nid yw’r status quo yn opsiwn. Camu ymlaen neu gamu yn ôl, dyna’r opsiwn. Beth am i ni beidio esgus fel arall.

Parch, Cyllid Teg a’r Refferendwm

4 Mehefin 2010

Da gweld bod David Cameron a llywodraeth glymblaid y DG am i ‘barch’ nodweddu’r ffordd y byddan nhw’n trin y llywodraethau datganoledig. Yng Nghymru fe all fod y bwriad i ‘fwrw ymlaen â’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Gartrefi Cynaliadwy’, y llwyddodd y Ceidwadwyr ei flocio tra’n wrthblaid, fod yn arwydd o hynny.

 

Mae’r cynigion ar gyllido i’r Alban a Chymru fodd bynnag yn awgrymu y bydd rhagor o barch yn cael ei dalu i’r blaenaf nag i’r olaf. Wel dyna beth syn!

 

Ar dudalen 28 y ddogfen Rhaglen i Lywodraeth, dyma ddarllen y ‘byddwn yn adolygu contrôl a defnydd o refeniw cronedig a dyfodol y Lefi Tanwydd Ffosil yn yr Alban’. Datganiad go ddiamwys, ac mi allwch fentro y bydd y fantais i gyllideb Senedd yr Alban yn sylweddol.

 

Nid felly fater anghyfiawnder amlwg y trefiadau cyllido cyfredol i Gymru. Mae’r ‘pryderon a fynegwyd gan Gomisiwn Holtham’ yn cael eu cydnabod (sy’n brin o gryn dipyn o dderbyn sylwedd casgliadau Holtham), ond bydd rhaid aros am ‘sefydlogi o’r cyllid cyhoeddus’ cyn gweithredu i gywiro’r camwedd. Go brin bod angen pwysleisio y cymer hyn gryn amser. Mae’r sbin bod ‘rhaid blaenori lleihau’r diffyg’ yn amherthnasol wrth gwrs: mae cymwiro camwedd cyllidol mor berthnasol ar adeg o gyni ag ar adeg o ddigonedd – yn fwy felly yn wir.

 

Mae i’r annhegwch dybryd yng nghyllido Cymru a’r Alban o dan fformiwla Barnett bedigri maith. Gallai’r sawl sy â diddordeb yn y stori ddarllen tystiolaeth Cymru Yfory i Gomisiwn Holtham a Phwyllgor Ymchwilio Tŷ’r Arglwyddi i Barnett. Does a wnelo hi ddim oll â chyfiawnder a phopeth â’r bri cymharol a roir ar Gymru a’r Alban gan Lywodraeth y DG.

 

Beth sy â wnelo hyn â’r refferendwm arfaethedig ar bwerau deddfu go-iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol? Cryn dipyn, mae’n ymddangos. Meddai Rhaglen i Lywodraeth y Gymblaid ymhellach, ‘Gan ddibynnu ar ganlyniad y refferendwm arfaethedig, fe sefydlwn ni broses debyg i Gomisiwn Calman i’r Cynulliad Cymreig [sic]. (Fe ystyriodd Calman faterion cyllido yn ogystal â phwerau pellach i Senedd yr Alban.)

 

Triwch dorri’r côd ac fe allech ffeindio’r hyn a ganlyn: ‘Fe gawn ni weld oddi wrth ganlyniad y refferendwm arfaethedig pun a ydych chi’r Cymry yn teilyngu’ch cymryd o ddifrif ac i’ch cwynion gael eu hateb’.

 

Mae’n edrych yn debyg bod ennill Ie atseiniol yn y refferendwm yn hanfodol, nid dim ond er mwyn cael system lywodraethu mwy effeithio, mwy democrataidd, i Gymru, ond er mwyn cael gafael ar beth o leiaf o’r arian ecstra rydyn ni angen wrth wynebu, yn ôl pob tebyg, gyfnod o gyni.

Y gwir ddewis mewn refferendwm

3 Mehefin 2010

Os oes gan yr holl boblogaeth ddealltwriaeth isel o ddatganoli, fel yr awgryma Len Gibbs o ‘True Wales’ (29 Mai), yna ni fydd ei lythyr i’r Western Mail ar gwestiwn y refferendwm wedi gwneud llawer i adfer hynny.

                   

Nid oes agenda cuddiedig yma. Ni all ac ni fydd y refferendwm yn cynnig annibyniaeth nag ymreolaeth. Ni all ac ni fydd yn cynnig pwerau deddfu mewn unrhyw faes polisi nad yw eisoes dan gyfrifoldeb y Cynulliad. Mae’r polisïau hynny wedi eu cytuno ac nid oes newid ar hynny.

 

Y dewis gerbron pobl Cymru yw hyn: rydym unai yn parhau â system ble mae’n rhaid i’r Cynulliad barhau i ofyn i San Steffan am ganiatâd i basio deddfwriaeth mewn polisïau sydd eisoes wedi eu datganoli iddo NEU rydym yn newid i system ble gall y Cynulliad ddeddfu yn syml yn yr un adrannau penodol hynny heb wastraffu llawer o amser, arian, amynedd ac ewyllys da.

 

Y rheswm am gymysgwch honedig pobl ynglŷn â datganoli yw’r union reswm pam fod cwestiwn y refferendwm mor anodd i’w eirio – rydym angen system symlach, a byddai pleidlais ie mewn refferendwm yn darparu hynny.

Refferendwm - Beth allwch chi ei wneud

27 Mai 2010

Gyda bwrlwm yr etholiad cyffredinol drosodd fe allwn ni ganolbwyntio unwaith eto ar y refferendwm ar bwerau deddfu cryfach i’r Cynulliad Cenedlaethol.  

Mae’n anhebygol y bydd refferendwm yn cael ei gynnal ym mis Hydref. Ddylem gael gwybod erbyn Mehefin 17eg beth yw’r sefyllfa yn union – dyna pryd mae rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, gyhoeddi ei ymateb i’r cais unfrydol gan Aelodau Cynulliad i gynnal refferendwm.

Pryd bynnag fydd y refferendwm mae cryn dipyn o waith angen ei wneud i argyhoeddi pobl ei bod hi’n holl bwysig ein bod ni’n cael pwerau deddfu cryfach a bod angen mynd allan i bleidleisio. A dyna lle mae gwaith Cymru Yfory mor bwysig.

Dyma rai syniadau o’r hyn gallwch chi wneud dros y misoedd nesaf:

  • Ymuno â Grwp Lleol neu sefydlu un yn eich ardal
  • Cynnal cyfarfod yn eich tref / pentref i drafod y refferendwm
  • Cynnal bore coffi i drafod refferendwm
  • Cynnal stondin yn y dref ar ddydd Sadwrn i ddosbarthu taflenni Cymru Yfory (fe allwn ni ddanfon rhai atoch chi) a chasglu enwau ar y Datganiad dros Ddemocratiaeth.
  • Oes oes sioe amaeth leol neu ffair haf yn lleol ewch yno i ddosbarthu taflenni a chasglu llofnodion ar y Datganiad.
  • Ysgrifennu colofn ar gyfer y papur lleol / y papur bro lleol am bwysigrwydd y refferendwm

Bydd ein gwefan newydd yn barod o fewn dyddiau ac rydym yn awyddus iawn i gael digonedd o newyddion oddi wrth cefnogwyr. Dyma ambell syniad:

  • Fideo byr yn esbonio  “pam bydda i yn pleidleisio IE yn y refferendwm”
  • Ychwanegu sylwadau a straeon yn son am pam fyddwch chi yn pleidleisio IE

Fe fydd yn hawdd i chi anfon deunydd i’r wefan, ond fe fydd rhaid i ni gymedroli popeth cyn ei gyhoeddi. 

Cofiwch gysylltu os oes angen unrhyw adnoddau neu daflenni arnoch chi, neu angen rhywun i siarad mewn cyfarfod.

Ar hyn o bryd mae grwpiau wedi eu sefydlu yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Pontypridd, Wrecsam, Caerdydd, Cwmbran, Caernarfon ac Abertawe.

Mae yna ddau grwp arall yn cwrdd yn fuan:

Nos Lun Mehefin 14eg am 7.30pm yn y Park Hotel, Park Crescent, y Barri, CF62 6HE

Nos Fercher 23ain o Fehefin am 7.30pm yn y Ganolfan Gymunedol, Mount Lane, Llanidloes SY18 6EX

Os yw’r rhain yn rhy bell i chi, ac os oes diddordeb gennych mewn sefydlu grwp yn eich ardal chi cysylltwch a fi ac fe allwn roi cymorth i chi ddechrau grwp ymgyrchu.

Beth sydd yn gwneud ymgyrch refferendwm lwyddiannus?

27 Mai 2010

Nos Fercher yr wythnos ddiwethaf, ymgasglodd breswylwyr swigen Bae Caerdydd yn y Pierhead ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gan yr AC Bethan Jenkins a Sefydliad Bevan ar gyfer digwyddiad ynglŷn a sut y dylir cynnal ymgyrch refferendwm lwyddiannus. Nawr fod Adeilad y Pierhead wedi cael adfywiad gan y Cynulliad Cenedlaethol, efallai ei fod yn lleoliad addas wrth i sylw gael ei roi unwaith yn rhagor i gwestiwn dyddiad refferendwm i ganiatáu i’r sefydliad gael pwerau deddfu cynradd.

 

Roedd y panel yn un nodedig; Dr Matt Qvortrup (un o brif arbenigwyr Ewrop ar refferenda), Nigel Smith (cyn Gadeirydd yr ymgyrch Ie yn yr Alban), Quintin Oliver (cyn Gyfarwyddwr yr ymgyrch Ie yn y refferendwm Gwener y Groglith/Cytundeb Belffast) a Daran Hill (cyn Drefnydd Cenedlaethol yr ymgyrch Ie dros Gymru).

 

Yn dilyn trafodaeth ysgogol a gyfeiriodd at Abba, Charles de Gaulle ac eliffantod llawn aer, daeth hi’n glir fod tipyn i feddwl amdano ar gyfer y rheiny sydd yn ymwneud â sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm. Fel y clywodd y gynulleidfa, gall hyd yn oed y cynlluniau mwyaf cadarn syrthio’n ddarnau, ond nid oes dim a all gymryd lle ymgyrch wedi ei gynllunio a’i weithredu’n dda.  

 

Mae’n rhaid paratoi cyn i’r ymgyrch ddechrau yn iawn. Mae adeiladu clymblaid yn hanfodol; fel a nododd Daran Hill, gall cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig (sydd wedi newid eu safbwynt tuag at ddatganoli ers 1997) fod yn allweddol wrth symud y balans o blaid pleidlais Ie yn y refferendwm. Fodd bynnag, nid yw sefydlu ymgyrch tros-bleidiol lwyddiannus yn hawdd; clywsom pan fod pleidiau sydd fel arfer yn elynion yn canfod eu hunain ar yr un ochr ynglŷn â mater penodol, eu bod yn gallu bod yn amharod i gronni arian mewn ymgyrch os yw hyn yn golygu lleihau eu coffrau etholiadol, heb sôn am eu amharodrwydd i gydweithio os yw pleidiau yn brwydro mewn ymgyrchoedd etholiadol a refferendwm a fydd yn cael eu penderfynu ar yr un diwrnod.

 

Mae’n rhaid trin cefnogaeth enwogion gyda gofal, ac ni ddylir dibynnu arno yn lle presenoldeb neges glir, os yn wir ei ddefnyddio o gwbl. Methodd y dacteg hon yn ystod refferendwm Sweden dros ddefnyddio’r Ewro yn 2003, pan y penodwyd Bjorn a Benny o Abba i siarad o blaid yr ymgyrch Ie, pobl nad oedd y ‘Joe Bloggs cyffredin’ yn gallu uniaethu â nhw.

 

Mae cael neges dilys ac arwyddocaol yn hanfodol, ac mae’n rhaid buddsoddi mewn polau piniwn cadarn er mwyn sicrhau fod y neges yn un a fyddai yn cael ei drafod o amgylch y bwrdd brecwast. Ynghyd â chael llwyfan gadarn eu hunain, dylai ymgyrchwyr fod yn barod i danseilio a gwrthddweud dadleuon y garfan arall yn gyflym a deallus. Yn ogystal, dylir briffio’r lleiswyr barn a’r cyfryngau ar y materion a proses y refferendwm, mater hynod bwysig yng Nghymru o gofio’r diffyg yn y cyfryngau o fewn Cymru a dihidrwydd (ac annealltwriaeth ar brydiau) cyfryngau’r DU tuag at faterion Cymreig.

 

Nid gwario mwy na’r gwrthwynebydd neu ddatblygu dadl haearnaidd yw hi i gyd fodd bynnag. Weithiau gellir diffinio refferendwm gydag un darlun eiconig yn unig, fel a ddigwyddodd gyda refferendwm Cynulliad rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Lloegr yn 2004. Dros amser, y presenoldeb mwyaf trawiadol (a digroeso) yn nifer o ddigwyddiadau y blaid Lafur er mwyn cefnogi pleidlais Ie, oedd eliffant gwyn llawn aer a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch Na er mwyn crisialu’r neges yn hynod effeithiol.

 

Unwaith fo’r neges wedi ei greu a’r ymgyrch yn mynd yn ei blaen, y sialens nesaf ac olaf yw annog pobl i fynd i bleidleisio. Gall gor-hyder o ran hyn fod yn angheuol: gall refferenda gael eu colli drwy absenoldebau gan bleidleiswyr sydd yn credu fod dim amheuaeth am y canlyniad. Mae’n rhaid paratoi ateb nawr ar gyfer y rheiny sydd yn sicr o ofyn ‘pam eich bod yn fy mhoeni gyda’r refferendwm yma nawr?’ 

 

Nid yw’r rhai sydd yn trafferthu mynd i bleidleisio, bob amser yn ateb y cwestiwn ar y papur pleidleisio. Mewn sefyllfa lle mae’r status quo yn anffafriol (megis mewn amser dirwasgiad), gall bleidleiswyr gael eu cymell yn feddyliol i bleidleisio dros newid. Clywodd y gynulleidfa fod refferenda sydd yn cael eu cynnal yn gynnar yn nhymor llywodraeth ac ar anterth ei boblogrwydd yn dueddol eu gael eu hennill, ac fel esiampl o hyn, fe gyfeiriwyd at y defnydd o Tony Blair yn refferendwm Gogledd Iwerddon yn 1998 pan fo Blair, a oedd ei hun yn ymgyrchydd gwych, yn boblogaidd iawn.

 

Felly, mae rheswm dros fod yn ffyddiog, ond mae hefyd nifer o straeon o rybudd ar gyfer y rheiny sydd o blaid pleidlais Ie yma yng Nghymru. Fel a welwyd o gyhoeddiad Carwyn Jones a’r ymateb iddo, amseriad y refferendwm Cymreig fydd asgwrn y gynnen rhwng y gwrthwynebwyr o nawr hyd y daw penderfyniad ynglŷn â’r dyddiad. Os y cynhelir y refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad yn 2011 (cynnig a dderbyniodd ychydig, os unrhyw gefnogaeth gan aelodau’r panel ddydd Mercher), gall y dyddiad gael effaith enfawr ar y canlyniad.

 

Ymddangosodd y darn hwn yn wreiddiol ar gylchgrawn newydd y Sefydliad Materion Gymreig, ClickonWales.