*
*
*
*
*
*
 
*
*

Sefydlu Cymru Yfory
Daeth y syniad i greu’r grŵp trawsbleidiol, traws-sector mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard ym Mawrth 2004.

Beth yw Comisiwn Richard?
Sefydlwyd y Comisiwn ym mis Gorffennaf 2002 gyda’r nod o adolygu trefniadau etholiadol a phwerau'r Cynulliad, a chynhyrchu adroddiad annibynnol ar y materion hynny. Astudiodd y Comisiwn gwestiynau megis:

  • A yw maint y Cynulliad yn ddigonol i gyflawni ei swyddogaethau presennol?
  • A yw'r system etholiadol bresennol yn cynrychioli Cymru yn ddigonol?
  • A fyddai angen unrhyw newidiadau pe bai gan y Cynulliad fwy o bwerau?

Ymgynghorodd y Comisiwn yn eang, a chyhoeddwyd eu hadroddiad terfynol ar y 31ain o Fawrth 2004.

Yn yr adroddiad hwnnw, mae'r Comisiwn yn argymell:

  • y dylai Cymru gael Cynulliad deddfwriaethol wedi'i seilio ar y model ym Mhennod 13 o'r adroddiad;
  • yn y cyfamser, y dylid ymestyn y pwerau fframwaith dirprwyedig cyn belled â phosib gyda chytundeb Llywodraeth a Senedd y DU;
  • os bydd Cynulliad deddfwriaethol yn cael ei sefydlu, mae'n ddymunol, er nad yn angenrheidiol, iddo gael pwerau amrywio trethi;
  • er mwyn iddo ymarfer ei bwerau sylfaenol, mae angen cynyddu aelodaeth y Cynulliad i 80 Aelod;
  • y dylid ailsefydlu strwythur y Cynulliad gyda gweithrediaeth a chorff deddfwriaethol ar wahân;
  • na all y system bleidleisio bresennol gynnal cynnydd i 80 - y system amgen orau yw system STV;
  • Y dylai'r newidiadau hyn fod wedi'u sefydlu erbyn 2011 neu ynghynt os yw hynny'n ymarferol. Cliciwch fan hyn am fanylion pellach

Beth ddigwyddodd nesaf…
Clodforwyd yr adroddiad ar hyd a lled Cymru - gan y pleidiau gwleidyddol, gan arbenigwyr cyfansoddiadol, y sectorau gwirfoddol, undebau llafur, addysg ag  amaeth yn ogystal â’r cymunedau ffydd.

Yn ystod Awst 2004, cyhoeddodd Plaid Lafur Cymru bapur polisi mewn ymateb i adroddiad Richard, a chyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghorol Llywodraeth y DG Better Governance for Wales yn ystod Haf 2005. Cyhoeddwyd Mesur Cymru yn y Senedd ar yr 8fed o Ragfyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Peter Hain a Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan - dogfen a fyddai’n sicrhau “mwy o bwerau i'r Cynulliad ddarparu polisïau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer Cymru” yn eu tyb hwy. Mae’r mesur yn cynnig gweithredu addewidion maniffesto 2003, a’r hyn oedd yn y papur gwyn, a bydd yn diddymu Deddf Llywodraeth Cymru 1998.


 

Nôl
*
*
*
Site by Innivo
*