*
*
*
*
*
*
 
*
*

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau ei drydydd tymor gyda mwy o bwerau ac awdurdod nag erioed o'r blaen.

Beth sydd arnaf i angen ei wybod am Ddeddf Llywodraeth Cymru?
Mae gan y Ddeddf dair rhan creiddiol:
* Mae'n gwahanu yn ffurfiol ganghenau gweithredol a deddfwriaethol y Cynulliad;
* Mae'n diwygio sut mae Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol;
* Mae'n rhoi mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad.


Beth felly fydd y prif wahaniaethau rhwng y Gweithgor (y Llywodraeth) a'r Ddeddfwrfa (gweddill y Cynulliad)?
Bydd y gweithgor yn datblygu a gweithredu polisïau, gwneud penderfyniadau, arfer swyddogaethau a llunio deddfwriaeth eilradd. Bydd y Ddeddfwrfa yn craffu ar waith Gweinidogion, craffu ar rhai darnau o ddeddfwriaeth eilradd, craffu ar a chymeradwyo'r gyllideb ac yn olaf, gallant gynnig a chymeradwyo cyfreithiau newydd o fewn cymwysedd y Cynulliad.

Beth yw’r pwerau newydd?
Tra na fydd pob cysylltiad gyda San Steffan yn cael ei dorri o bellffordd, mae’r Ddeddf yn bwysig gan ei fod yn galluogi i Gymru greu ei deddfau (Mesuarau Cynulliad) ei hun am y tro cyntaf ers dyddiau Hywel Dda. Bydd hefyd yn rhoi mwy o gyfle nag erioed o’r blaen i bob person yng Nghymru i ddylanwadau ar a newid y cyfreithiau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Ym mha feysydd allwn ni lunio Mesurau’r Cynulliad?
Bydd gan y Cynulliad y pŵer i basio deddfau – a elwir yn Fesurau’r Cynulliad – mewn 20 ‘maes’ o weithgaredd llywodraethol. Mae’r rhain yn cynnwys llywodraeth leol, diwylliant, datblygu economaidd, addysg a hyfforddiant, yr amgylchedd, iechyd a’r gwasanaethau iechyd, a’r iaith Gymraeg. Bydd San Steffan yn parhau i fod â chyfrifoldeb lwyr dros feysydd polisi fel amddiffyn, materion tramor, a polisi ariannol, cyllidol ac economaidd.

Sut fydd hyn yn gweithio?
Bydd y Cynulliad yn gwneud cais i Senedd Prydain am i faterion sy’n berthnasol i’r meysydd uchod gael eu datganoli i’r Cynulliad. Gall unrhywun wneud cais i drosglwyddo materion – y Llywodraeth, Aelodau’r Cynulliad, Pwyllgorau’r Cynulliad ac unigolion drwy “ddeiseb gyhoeddus”. Rhaid i bob cais arfaethiedig gael ei ddrafftio a’i ystyried nid yn unig gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad, ond hefyd gan Senedd Prydain. Unwaith mae mater wedi ei ddatganoli, bydd gan y Cynulliad yr hawl i ddrafftio Mesurau’r Cynulliad o fewn sgôp y mater sydd wedi ei ddiffinio.

Sut allaf i ddylanwadu ar y system?
Mae gan y pleidiau gwleidyddol lawer o syniadau ynghylch y math o ddeddfwriaeth sydd ei angen ar Gymru – ond mae’r un peth yn wir am lawer o bobl y tu allan i’r pleidiau. Gall dylanwadu gychwyn yn gynnar yn y broses. Gall diddordebau allanol geisio perswadio Llywodraeth y Cynulliad fod angen deddfwriaeth ac fod angen datganoli y pwerau priodol i ddelio â’r mater. Gall unrhywun feddwl am syniadau ynghylch sut gyfreithiau sydd eu hangen ar Gymru – does dim rhaid bod yn perthyn i blaid wleidyddol, neu hyd yn oed i grwp pwyso mawr i wneud hynny. Er enghraifft, gall unrhywun ddeisebu’r Cynulliad gan ofyn iddynt ystyried pasio cyfreithiau a chael gwir ddylwanwad ar y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru.










 

Nôl
*
*
*
Site by Innivo
*