Sefydlwyd Cymru Yfory ym mis Gorffennaf 2004, o dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru, mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Comisiwn Richard a gyhoeddwyd ym Mawrth 2004, yn y gobaith o annog a chefnogi trafodaeth bellach ar yr argymhellion ar bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol led led Cymru.
Mae Cymru Yfory yn gorff aml-bleidiol, traws-sector, aml-ffydd, sy'n dod ag ystod eang o unigolion sy'n weithgar yng nghymdeithas sifil Cymru.
NOD AC AMCANION CYMRU YFORY
Amcanion y mudiad yw i:
* Annog gweithredu Argymhellion Adroddiad Richard
Annog; * Annog cymdeithas sifig a’r cyhoedd i gyfrannu i drafodaeth agored, wybodus ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru; * Annog diddordeb o fewn cymdeithas Gymreig mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ac annog cymdeithas sifig i ymwneud a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn 2007, cyhoeddwyd ein llawlyfr 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ei newydd wedd - canllaw', gyda'r bwriad o fod yn arweiniad hawdd ei ddeall i bwerau a threfnidaeth newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o gyhoeddi cyfres o Bapurau Briffio Datganoli sydd yn edrych ar ystod eang o bynciau perthnasol i ddyfodol datganoli yng Nghymru, ac yn cyfrannu at y drafodaeth bresennol.
PARATOWCH AT Y DDADL FAWR
Mae Llywodraeth Cymru’n Un wedi ymrwymo i sicrhau hawliau deddfu cynradd i’r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac i gynnal refferendwm ar y cwestiwn yma erbyn Mai 2011 fan bellaf. I baratoi’r tir ar gyfer hyn bydd Confensiwn Cymru-Gyfan, wedi’i gadeirio gan Syr Emyr Jones Parry, yn arwain trafodaeth genedlaethol ar yr achos dros hawliau deddfu cynradd.
Mae Cymru Yfory yn cefnogi’n gryf y bwriad i roi hawliau deddfu cynradd i’r Cynulliad.Bydd hyn yn hwyluso gweithredu polisiau sy’n addas i Gymru ac yn fodd i ddatblygu ein bywyd cenedlaethol. Mae’r trefniadau presennol, er yn rhoi pwerau ychwanegol defnyddiol, yn rhy gyfyngedig, yn or-gymhleth, yn llyncu amser, ac yn gorfod cael caniatâd Senedd y Deyrnas Gyfunol (DG) bob cam o’r daith.Rydyn ni am weld setiad cyfansoddiadol a fydd yn sefydlog, yn eglur, yn effeithlon, ac yn parchu ymreolaeth y Cynulliad. Er mwyn sicrhau hynny mae’r materion canlynol, sydd heb eu cynnwys yn Neddf 2006, yn ein barn ni yn allweddol. Mae ar y Cynulliad angen:
80 o Aelodau Cynulliad (ACau). Mae 60 o ACau (45 heb gynnwys gweinidogion) yn rhy fach ar gyfer deddfu effeithiol a chraffu ar weithgareddau’r Llywodraeth;
System o ethol ACau sy’n decach ac yn fwy cyfrannol na’r un cyfredol. Fe argymhellodd Comisiwn Richard ddefnyddio’r Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl (STV). Mae angen ail-edrych ar y system etholiadol;
Sefyldu awdurdod cyfreithiol ar wahan i Gymru, fel sy’n bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon;
Pwer cyffredinol i ddeddfu fel sy’n bod yn yr Alban, yn hytrach na rhestriad maith o feysydd a ddatganolwyd;
Gwell dull o gyllido’iwariant. Mae’r system bresennol yn annheg i Gymru ac yn ddiffygiol o ran atebolrwydd i’r etholwyr.
Ein barn ni yw bod angen gweithredu’r camau yma cyn gynted âphosibl er mwyn cael llywodraethu effeithiol yng Nghymru.
Cymru Yfory yn Croesawu Dadl ar Ymgyrch Ie
08.10.08
Wrth edrych tuag at y ddadl heddiw ar Ymgyrch Ie sydd wedi ei osod gan Peter Black AC, mae Cymru Yfory ...
... Mwy
‘Pwerau Deddfu Cynradd’ i Gymru ar ôl Refferendwm
24.07.08
Mae’r trydydd mewn cyfres o bapurau briffio datganoli i gael ei gyhoeddi gan Cymru Yfory yn bwrw golwg ar natur y ...
... Mwy